Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn ymroddi i warchod a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn cyflwyno sut mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Gyngor Tref yr Wyddgrug pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.
Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth arbennig fydd yn dweud pwy ydych wrth ddefnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn sicr y caiff ei defnyddio’n unig yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.
Fe all Cyngor Tref yr Wyddgrug newid y Polisi hwn o bryd i’w gilydd; felly cofiwch edrych ar y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych yn cytuno eich bod yn rhwym wrth y Polisi hwn. Daw’r polisi hwn i rym ar 21/04/2021.
Pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu amdanoch?
Mae gweithgareddau Cyngor Tref yr Wyddgrug yn cynnwys diweddariadau rheolaidd trwy ein rhestr e-byst mewnol, ffôn, cyfryngau cymdeithasol, e-newyddlen ar lwyfan Mailchimp (ar sail tanysgrifiad); a threfnu achlysuron. Ar gyfer rhai achlysuron, caiff tocynnau eu prynu trwy lwyfannau ar-lein fel Eventbrite a Ticket Tailor neu drwy ddefnyddio trefn archebu e-byst mewnol. Bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug hefyd yn defnyddio llwyfannau Weplyfr a Thrydar i hyrwyddo’i weithgareddau.
Weithiau bydd gweithgareddau Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gofyn casglu gwybodaeth fel enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac, yn achos achlysuron, cyfeiriad, a gofynion ymborthol ac arbennig eraill. Bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug hefyd yn cynnal arolygon i wella ei gynnig.
Gwefan Yr Wyddgrug yn Llwyr
Mae gwefan Yr Wyddgrug yn Llwyr yn cael ei chynnal gan drydydd parti (WiSS)
Cyngor Tref yr Wyddgrug sy’n rheoli holl gynnwys y we ac ymholiadau a wneir drwy wasanaeth cysylltu’r we.
Cwcis
Mae gwefan Yr Wyddgrug yn Llwyr yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw ynghylch nifer yr ymwelwyr ac adrannau’r wefan yr ymwelwyd â nhw.
Cwcis yw darnau bach o wybodaeth sy’n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Caiff y rhain eu defnyddio’n nodweddiadol gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddilyn eich hanes gwylio er mwyn targedu’n hysbysebu’n fwy effeithiol.
Caiff y wybodaeth ddienw ei chasglu a’i hysbysu trwy ddefnyddio Google Analytics i helpu inni reoli’r wefan. Mae hyn yn ein hatal rhag gweld unrhyw gofnodion unigol: ni allwn weld ond crynodebau a gwybodaeth am dueddiadau.
At ei gilydd, mae cwcis yn helpu inni roi gwell gwefan i chi, trwy alluogi i ni weld pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai sydd heb fod. Nid yw cwcis yn rhoi mynediad o unrhyw fath i ni at eich cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch, heblaw’r data y dewiswch ei rannu gyda ni.
Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr y we’n derbyn cwcis yn ddiofyn, ond gallwch fel arfer addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Fe all hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.
Google Analytics
Pan fydd rhywun yn ymweld ag www.totallymold.org.uk byddwn yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol ar fewngofnodi i’r rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Byddwn yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau’r wefan. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu’n unig mewn ffordd nad yw’n adnabod neb. Nid ydym yn gwneud, nac yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan.
Dolenni
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni rhyngom â gwefannau ein partneriaid ac aelodau. Os dilynwch chi ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau a gewch drwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn nac am unrhyw ddata personol sy’n cael ei gasglu drwy’r gwefannau neu wasanaethau hyn. Cofiwch ystyried y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn neu ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Delweddau a Ffilmio Achlysuron
Fe all Cyngor Tref yr Wyddgrug dynnu lluniau a gwneud fideos mewn achlysuron i hyrwyddo’r dref a’n hamryw achlysuron.
Fe allwn ddefnyddio’r ffotograffau / fideos ar ffurf argraffedig a digidol, mewn amrywiol sianelau gan gynnwys gwefannau Yr Wyddgrug yn Llwyr a Chyngor Tref yr Wyddgrug, ar ffrwd Weplyfr a Thrydar a’u hanfon i’r wasg leol i’w cyhoeddi. Bydd y delweddau / fideos yn cael eu defnyddio am uchafswm o 10 mlynedd a byddant yn cael eu cadw’n ddiogel ar weinyddion ffeiliau Cyngor Tref yr Wyddgrug.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn ymroddi i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn ffordd ddiogel a chydgyfrinachol yn unol â’i rwymedigaethau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a chanllawiau proffesiynol. Bydd Cyngor y Dref yn defnyddio holl ddulliau priodol ac angenrheidiol at ei ddefnydd i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data a chanllawiau cysylltiedig.
Cyngor Tref yr Wyddgrug yw’r Rheolwr Data dan gyfraith diogelu data a bydd yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch fel a ganlyn:
Sut gaiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Caiff data eu prosesu’n fewnol ac ni chânt eu defnyddio i wneud penderfyniadau diofyn.
Byddwn hefyd yn defnyddio prosesyddion trydydd parti ac, fel y cyfryw, gallwn rannu gwybodaeth amdanoch gyda nhw. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu’n unol â’u polisïau preifatrwydd. Byddwn yn defnyddio’r prosesyddion canlynol:
Gwasanaethau gwe WiSS sy’n cynnal gwefan Yr Wyddgrug yn Llwyr
Mail Chimp, ar gyfer gweinyddu ein gwasanaethau taflenni newyddion
Eventbrite ar gyfer rheoli archebion achlysuron a gweithdai
Trydar / Weplyfr ar gyfer gwasanaethau cynnwys y we
Survey Monkey ar gyfer casglu a chrynhoi arolygon
Google Analytics i helpu inni wella a gwneud y gorau o wefan Yr Wyddgrug Yn Llwyr
Sail gyfreithiol prosesu’r data hyn yw eich caniatâd i wneud hynny. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy ein hysbysu. Ein manylion cysylltu ar gyfer gwneud hynny, neu i wneud unrhyw ymholiadau eraill, yw Cyngor Tref yr Wyddgrug, Llawr 1af, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1AB. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ymhellach.
Mae gan unigolion nifer o hawliau dan gyfraith diogelu data, gan gynnwys hawl i ofyn am eu gwybodaeth. Mae gennych hawl hefyd i gwyno ynghylch sut ydym yn trin eich data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn
https://ico.org.uk/
Bydd gwybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio’n unig i’r diben dywededig. Mae rhagor o wybodaeth am brosesu eich data i’w chael ar ein gwefan yn http://www.moldtowncouncil.org.uk/Mold-land/Default.aspx. Gallwch gysylltu â Ian Jones, Swyddog Diogelu Data Cyngor y Dref, drwy’r post yn Cyngor Tref yr Wyddgrug, Llawr 1af, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1AB, trwy e-bost yn townclerk@moldtowncouncil.org.uk, neu dros y ffôn ar 01352 751819.