Sefydlwyd yr Wyddgrug fel tref farchnad oddeutu’r flwyddyn 1100 wedi goresgyniad Prydain gan y Normaniaid, a welodd bod y Stryd Fawr yn ddigon llydan ar gyfer stondinwyr a gwerthu anifeiliaid. Yn ymestyn o’r Groes i Fryn y Beili, y stondinau ar y dechrau oedd blaenau siopau masnachwyr a chrefftwyr. Yn ddiweddarach daeth ‘marchnad fwystfilod’ i Stryd Grosvenor. Mae arolwg a wnaed yn 1653 i Iarll Derby, Arglwydd y Faenor ar y pryd, yn cynnwys manylion dwy ffair a fyddai wedi cael eu cynnal ar y Stryd Fawr. Tra nid yw’r ffeiriau blynyddol yn cael eu cynnal mwyach, mae traddodiad y farchnad stryd ddwywaith yr wythnos yn parhau hyd heddiw.
Bob dydd Mercher a dydd Sadwrn o 9am i 3.30pm drwy gydol y flwyddyn yn denu mwy na 70 o fasnachwyr.
Rhagor o wybodaeth
Marchnad dan do ffyniannus wrth galon Canolfan Siopa Daniel Owen.
Ar agor o 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Rhagor o wybodaeth