mwynhewch ein croeso Cymreig
Mae mannau cyfarfod braf i yfed a bwyta yn yr Wyddgrug. Beth bynnag eich blas neu gyllideb mae rhywbeth blasus i’w gladdu bob amser yn un o’n hamryw siopau deli, caffis a thai bwyta ryfeddol.
Mae gan yr Wyddgrug ddigonedd o ddewisiadau yfed hefyd yn ein tafarnau traddodiadol, bariau gwin a thafarn cwrw go iawn neu beth am drefnu ymweliad â microfragdy’r Wyddgrug ei hun
Mae llawer o’n canolfannau’n ymfalchïo mewn cael gafael ar gynnyrch lleol, a dyma gyfle i fwynhau ein croeso Cymreig a chael gwir flas ar Gymru.
Os ydych yn chwilio am ginio i’r teulu, pryd nos cyn y theatr neu ddiodydd gyda chyfeillion, mae gennym ateb i’ch holl anghenion; yn wir bydd gormod o ddewis.
Mae’r Wyddgrug hefyd yn cynnal Gŵyl Fwyd a Diod ym mis Medi bob blwyddyn gyda’r arddangoswyr gorau oll, theatrau coginio, cynnyrch, ac enwau blaenllaw yn ym myd coginio.