Croeso i’r Wyddgrug

Croeso i’r Wyddgrug, gyda’r farchnad enwog ar y stryd, amrywiaeth eang o siopau annibynnol, mannau cyfarfod braf i yfed a bwyta,hanes diwylliannol cyfoethog a’n hamryw achlysuron o fri. Yn lle hyfryd i ymweld, gweithio a byw – treuliwch amser i weld beth sydd gan ein tref wych i’w gynnig.

Yr Wyddgrug hefyd yw cartref Theatr Clwyd, sy’n enwog am ei dramâu mawrion, cerddoriaeth, sinema, a gweithgareddau cymunedol. Yma gallwch weld llawer o berfformiadau sydd wedi ymddangos yn West End Llundain a’r dinasoedd mwyaf, yn ogystal â pherfformiadau sydd ag apêl ddiwylliannol fwy Cymreig.

Marchnadoedd yr wyddgrug

Marchnadoedd yr Wyddgrug

Mae’r Wyddgrug yn falch o fod yn gartref y farchnad stryd fwyaf a mwyaf hanesyddol yng Ngogledd Cymru, gyda masnachwyr a siopwyr fel ei gilydd yn ei gwerthfawrogi’n fawr, am ddewis y nwyddau sydd ar gael ynghyd â’i chroeso cynnes Cymreig traddodiadol.

Totally Mold Totally Mold Totally Mold