Cyrchfan Teithiau i Grwpiau

Yn Sir y Fflint, Gogledd-ddwyrain Cymru y mae’r Wyddgrug, sef lleoliad Theatr Clwyd, canolfan fwyaf llwyfannu perfformiadau yng Nghymru. Gerllaw, mae Bryn y Beili, safle castell Normanaidd canoloesol o’r 11eg ganrif. Yn y dref cynhelir Marchnad yr Wyddgrug – y farchnad stryd fwyaf a’r orau yng Ngogledd Cymru ynghyd ag amrywiaeth o dafarnau clasurol, siopau, caffis a bwytai annibynnol â naws arbennig iddynt, sy’n cynnig croeso cynnes a Chymreig i bawb!

Mewn geiriau eraill, llond gwlad o bethau i gadw’r holl ymwelwyr yn brysur – o’r bobl hynny sy’n hoffi archwilio a siopa neu fwynhau bwyd a diwylliant, mae yma rywbeth i bawb.

I gael rhagor o syniadau ynghylch beth i’w wneud a’r lleoedd i’w gweld pan ydych chi yma beth am ichi fwrw golwg ar Wefan yr Wyddgrug yn Llwyr…


Maes Parcio Gwell i Goetsis

Yn y maes parcio i goetsis sydd newydd gael ei ehangu yn yr Wyddgrug, ym Maes Parcio Stryd Newydd, CH7 1NU, mae lle i 6 bws sydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Gall gyrwyr y bysiau ddefnyddio’r lleoedd hyn yn rhad ac am ddim.


Man Gollwng Teithwyr

Er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau eu hunain i’r eithaf fe ddarparwyd “man gollwng” teithwyr gerllaw’r cyfleusterau lleol. Rhwng 7am a 7pm gall y gyrwyr ollwng eu teithwyr ar Glirffordd y Safle Bysiau, Ffordd A5119 Stryd Gaer, yr Wyddgrug, cyn iddynt fynd i barcio eu bysiau ym Maes Parcio Stryd Newydd.


Taleb Cinio i Yrwyr Coetsis

I hwyluso’ch arhosiad yn y dref, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig Taleb Cinio am ddim - gwerth £5.00 – i yrwyr coetsis.

Mae’r daleb ar gael ar ddyddiau Mercher a Sadwrn a gellir mynd i’w nôl yn Swyddfa’r Marchnadoedd sydd yn Neuadd y Dref, yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll. Bydd gofyn ichi ddod â rhywbeth gyda chi i brofi pwy ydych chi a rhoi rhif cofrestru’r bws.

Gallwch ddefnyddio’r daleb yng Nghaffi Canolfan Daniel Owen sydd yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen, yr Wyddgrug, CH7 1AP.

Byddwch cystal â rhoi’ch taleb i staff y caffi pan ydych chi’n archebu’ch bwyd a’ch diod.

Sylwer: Os byddwch yn archebu bwyd sy’n costio mwy na’r £5.00 ar y daleb yna bydd rhaid ichi dalu’r gweddill pan ydych yn archebu’ch bwyd. Os bydd eich archeb yn costio llai na £5.00 yna ni fyddwch yn cael y newid.


Mae croes ichi ffonio Swyddfa Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint ar 07919 166279 os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y daleb hon

Totally Mold Totally Mold Totally Mold