Rhoddodd C.H. Leslie, awdur o’r 19eg ganrif, apêl yr Wyddgrug yn gryno pan ysgrifennodd: ‘Bydd llawer o ddieithriaid yn ymweld â’r lle – nid pob un â’i fryd ar fasnach – ond rhai fel twristiaid yn unig.’
Mae gan yr Wyddgrug doreth o hanes a diwylliant o eglwys blwyf drawiadol y Santes Fair sydd, yn ôl y sôn, yn un o’r adeiladau eglwysig gorau yng Nghymru, i Blas y Dre, preswylfa teulu Plas Nercwys yn y gaeaf, ac adeiledd gothig Sioraidd cain hen Gapel Pendref.
Ym mhen y dref mae Bryn y Beili atgof pendant o orffennol hynafol y Dref a’i sefydliad yn nyddiau’r Normaniaid. Wedi’i enwi ar ôl y castell Tomen a Beili o’r canoloesoedd a safai’n fawreddog unwaith yng nghanol y dref farchnad draddodiadol hon, mae Bryn y Beili’n barc cyhoeddus hyfryd gyda llawer o fannau gwahanol i’w harchwilio, mwynhau’r golygfeydd syfrdanol, drachtio’r llonyddwch a rhythu ar Gylch yr Orsedd. Dyma’r lle perffaith i dreulio amser gyda chyfeillion a theulu.
Byddai’n anodd peidio â cherdded o gwmpas yr Wyddgrug heb ddod ar draws pethau i’ch atgoffa am Daniel Owen, ei mab enwocaf a ystyriwyd yn ‘Charles Dickens Cymru’. Yn Sgwâr Daniel Owen mae cerflun ohono gyda’i eiriau arni: ‘Nid i’r doeth a deallus yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin’, sy’n crynhoi athroniaeth yr awdur. Mae Daniel Owen hefyd yn rhoi ei enw i wythnos o ŵyl.
Datgladdwyd Mantell Aur yr Wyddgrug gan weithwyr yn cloddio am garreg ychydig oddi ar Ffordd Caer. Mae’r Fantell o aur 23 carat yn dyddio o rhwng 1900 a 1600 CC a’r gred yw ei bod yn ddilledyn ar gyfer defodau crefyddol. Adferwyd i’w llawn ogoniant ac mae bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig gyda chopi cain i’w weld yn Amgueddfa’r Wyddgrug yn y llyfrgell.
Sefydlwyd Marchnad Stryd yr Wyddgrug ar ôl sefydlu’r dref o gwmpas y flwyddyn 1100 wedi goresgyniad Prydain gan y Normaniaid, a welodd bod y Stryd Fawr yn ddigon llydan ar gyfer stondinwyr a gwerthu anifeiliaid. Yn ymestyn o’r Groes i Fryn y Beili, y stondinau ar y dechrau oedd blaenau siopau masnachwyr a chrefftwyr. Yn ddiweddarach daeth ‘marchnad fwystfilod’ i Stryd Grosvenor. Mae arolwg a wnaed yn 1653 i Iarll Derby, Arglwydd y Faenor ar y pryd, yn cynnwys manylion dwy ffair a fyddai wedi cael eu cynnal ar y Stryd Fawr. Tra nad yw’r ffeiriau blynyddol yn cael eu cynnal mwyach, mae traddodiad y farchnad stryd ddwywaith yr wythnos yn parhau hyd heddiw.