Siopau a Siopa

Marchnadoedd yr wyddgrugGallwch fwynhau profiad siopa rhyfeddol yn yr Wyddgrug. Gwobrwywyd ein siopwyr annibynnol; gallwch fod yn sicr y cewch groeso Cymreig cynnes a gwasanaeth eithriadol fel cwsmer. Mae gennym ddewis enfawr o siopau arbenigol ac unigryw, marchnad dan do a marchnad ar y stryd ddwywaith yr wythnos, ochr yn ochr ag enwau’r Stryd Fawr.

Os ydych yn chwilio am anrheg unigryw neu ddillad newydd, cymrwch amser i archwilio’r Wyddgrug a’i holl strydoedd cefn; defnyddiwch y map i weld ble’r ydych.

Ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, mae’r dref yn ymfalchïo yn y farchnad stryd fwyaf a’r orau yng Ngogledd Cymru. Bydd Marchnad y Ffermwyr ar ddydd Sadwrn cyntaf a thrydydd y mis yn Neuadd Eglwys y Santes Fair (Heol y Brenin).

Mae’n wir fod gan ein tref rywbeth i bawb – ewch i archwilio ein siopau rhyfeddol.

Wyddoch chi fod llawer o fusnesau yn yr Wyddgrug yn croesawu cŵn?

Mae gan lawer o’n siopwyr a darparwyr gwasanaethau gynnig ar-lein drwy eu gwefannau neu dudalennau Weplyfr. Mae rhestr lawn busnesau’n rhoi’r holl fanylion.

Totally Mold Totally Mold Totally Mold