Ymweld

â’n tref a’r cylch

Mae’n hawdd cyrraedd yr Wyddgrug yng Ngogledd-ddwyrain hyfryd Cymru.

Mae ei gorffennol hanesyddol diddorol, cymuned gref, siopau annibynnol a gweithgareddau diwylliannol bywiog yn golygu bod rhywbeth yn digwydd bob amser yn yr Wyddgrug.

Rydym eisiau i chi archwilio pob rhan o’n tref braf, pob rhan ohoni sy’n ei gwneud yn unigryw.

Rydym eisiau i chi ddarganfod y perlau cudd, y siopau annibynnol hynod, y pleserau coginiol a phrofi diwylliant caffi ein tref ryfeddol. Trwy’r dref i gyd, fe welwch chi sawl Man Gwybodaeth i Ymwelwyr sy’n dangos ichi lle mae’r prif atyniadau.

Wyddoch chi fod llawer o fusnesau yn yr Wyddgrug yn croesawu cŵn?

Mae’r Wyddgrug yn sefyll ond ychydig ffordd o Barc Gwledig Loggerheads. Mae hwn yn fan arbennig iawn, yn llawn bywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’r Wyddgrug yn borth delfrydol i ymwelwyr sy’n dymuno archwilio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cyfunwch eich ymweliad, i archwilio ac aros sbel yn yr Wyddgrug. Porwch ein rhestr llety yn yr Wyddgrug a’r cylch.

Totally Mold Totally Mold Totally Mold