Mae gan yr Wyddgrug galendr gwych o wyliau ac achlysuron sy’n cynnig rhywbeth cyffrous i bawb drwy gydol y flwyddyn.
Boed hynny’n gyfranogi yn rasys crempog traddodiadol y dref, mwynhau un o’r amryw achlysuron cerddoriaeth fyw, cynhyrchiad theatr, profi’r dewis blasus o fwyd a diod yn yr ŵyl fwyd, cynorthwyo twtio canol y dref yn y Glanhau Mawr blynyddol neu ddarganfod y cwrw arbennig hwnnw yng Ngŵyl Dachwedd, wir i chi mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yma yn yr Wyddgrug.
Bydd gwyliau ac achlysuron blynyddol yr Wyddgrug yn denu niferoedd o ymwelwyr i’r dref yn rheolaidd, wrth ganolbwyntio ar ymdeimlad cryf o gymuned. Dyma ddetholiad bach o achlysuron blynyddol mwyaf yr Wyddgrug.
Sylwch: gallai unrhyw rai o'r digwyddiadau hyn newid / gael eu canslo
Cyngor Tref yr Wyddgrug e-bost: events@moldtowncouncil.org.uk