Croeso i Hanes Yr Wyddgrug! Ymunwch â ni am siwrne ddifyr trwy strydoedd hanesyddol Yr Wyddgrug. Byddwch yn archwilio treftadaeth a straeon cyfoethog y dref gyfarweddol hon wrth inni grwydro strydoedd eiconig.
Bydd ein tywysyddion gwirfoddol gwybodus yn rhannu ffeithiau ac anecdotau diddorol ynglŷn â gorffennol y dref, gan wneud y daith hon yn hanfodol i chi’r selogion hanes, yn ogystal â’r rhai chwilfrydig yn eich mysg. Peidiwch â cholli‘r cyfle cyffrous hwn i durio i ddirgelion hanes tref Yr Wyddgrug. Rhowch eich sgidiau cerdded amdanoch a byddwch yn barod am antur!
Bydd y teithiau cerdded tywys yn cael eu cynnal ar y cyd â’r Farchnad Artisan ar y Suliau, sy’n digwydd ar Sgwâr Daniel Owen ac yng Nghanolfan Daniel Owen:
Dyddiau Sul, Mawrth 23ain, Ebrill 27ain, Mai 25ain, Mehefin 29ain, Gorffennaf 27ain, Awst 31ain, Medi 28ain a Hydref 26ain, 2025
Mae’r holl deithiau yn rhad ac am ddim ond bod cyfyngu ar rifau, MAE ARCHEBU LLE YN HANFODOL. Disgwylir i bob taith bara rhwng 60 a 90 munud.
Ceir pum taith hanesyddol ac amseroedd i ddewis ohonyn nhw:-
Hanes Stryd Wrecsam a Stryd Newydd
Wedi’u disgrifio yn y 1920au fel ardal dosbarth gweithiol, mae’r strydoedd yn cynnwys adeiladau rhestredig, yr ysgol fwrdd gyntaf, busnesau’n cynnwys meithrinfa blanhigion, tanerdy, siopau treip. Yn Stryd Newydd, chwiliwch am dŷ gyda chyswllt â’r Frenhines Fictoria.
Hanes Yr Wyddgrug – Hanes Cyffredinol Canol Tref Yr Wyddgrug (Stryd Fawr, pen ucha’r dref a Stryd Caer)
Taith tywys sy’n olrahin geni’r Wyddgrug o’i gwreiddiau yn dilyn Goresgyngiad y Normaniaid ym 1066, trwy cythrwfl ac aflonyddwch diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hyd at y rhan a chwaraeodd Yr Wyddgrug yn un o ystrywiau milwrol mwyaf yr Ail Ryfel Byd.
Tafarndai a Bragdai Yr Wyddgrug.
Wrth inni gymryd golwg ar rai o’r 70 a mwy o dafarndai fu gan y dref ar un adeg, fe ddilynwn yn ôl traed cenedlaethau o bobl Yr Wyddgrug trwy’r oesoedd. Mae’r dro yn cynnwys straeon am Bregethwr anghydffurfiol ac Arth, Ystafell Goffa’r Eisteddfod, y dafarn sydd â thalwrn ceiliogod a rhent anarferol a’r Ail Ryfel Byd.
Eglwysi a Chapeli Yr Wyddgrug
Mae’r dro yn dechrau gydag un o emau tref Yr Wyddgrug, sef eglwys y plwyf, Santes Fair y Forwyn. Yn ystod y dro, fe gawn glywed am ymweliad John Wesley ym 1759 a datblygiad anghydffurfiaeth trwy lygaid yr amrywiol eglwysi a chapeli enwadol.
Yr Wyddgrug Fictoraidd, bywyd ac amserau Daniel Owen
Yn un a anwyd yn Yr Wyddgrug ym 1836, fe’i ystyrir yn ‘Dad y Nofel Gymreig’. Roedd hefyd yn deiliwr, yn bregethwr ac yn was sifil a oedd yn fawr ei gons’yrn am y rhai llai anffodus mewn cymdeithas. Mae’r daith yn ymweld â’r lleoliadau a’r adeiladau a oedd yn gysylltiedig â Daniel ac yn archwilio sut yr aeth o dlodi truenus i’r unigolyn a gofir ac a ddathlir o amgylch y dref.
I ganfod mwy o wybodaeth, gan gynnwys amseroedd penodol y teithiau, cysylltwch â TotallyMold@moldtowncouncil.org.uk neu ffoniwch 01352 758532 opsiwn 3
Tra’ch bod gyda ni yn Yr Wyddgrug, beth am wneud diwrnod ohoni a mynd i fusnesa ym Marchnad Artisan y Sul (10yb -2yp) ar Sgwâr Daniel Owen a thu mewn i Ganolfan Daniwl Owen. Am fwy wybodaeth, ewch i restriad Sunday Gathering Artisan Market
Awydd tamaid i’w fwyta neu yfed? Ar y Suliau, mae digon o ddewis o fwytai (cynghorir ichi archebu lle ymlaen llaw mewn rhai lleoliadau) a bydd nifer o siopau’r dref hefyd ar agor yn ystod y Farchnad Artisan, digon i’w weld a’i wneud yma yn Yr Wyddgrug! Ewch i restriad busnesau’r dref am fanlyion am yr hyn sydd ganddon ni ar gael yma yn Yr Wyddgrug.
Hygyrchedd a Chyfyngiadau: Mae’n bosib na fydd mynychwyr sydd ag anawsterau symudedd neu faterion eraill yn medru defnyddio rhai rhannau o’r daith ond mae llwybr arall ar gael – rhowch wybod i’ch tywysydd ar gychwyn y daith.
Dillad: Fe ddylai mynychwyr wisgo sgidiau cyfforddus / cerdded ac unrhyw ddillad diddos / dal dŵr, on dos bydd amgylchiadau’r tywydd yn ddrwg, fe roddir ystyriaeth i ohirio taith.