Mae’r cwmni buddiannau cymunedol Sunday Gathering CIC yn fudiad nad yw’n dosbarthu elw. Nod y mudiad yw dod ag artisaniaid newydd i’r Wyddgrug a helpu i ddenu mwy o bobl i’r dref ar ddydd Sul.
Bydd y farchnad Artisaniaid yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul 23ain Mawrth, ac yna ar ddydd Sul olaf y mis o fis Ebrill hyd fis Hydref o 10am hyd 2pm yn yr awyr agored ar Sgwâr Daniel Owen (CH7 1AB) gyda mwy o stondinau dan do yng Nghanolfan Daniel Owen. Caniateir hyd at 40 stondin tu allan a 12 stondin tu mewn.
Yn ogystal â’r stondinau Artisan, bob mis rydym yn bwriadu dod ag arddangosfeydd ceir/beiciau modur clasurol/tras i chi, perfformiadau cerddorol, teithiau cerdded gydag arweinydd, a mwy.
Tra byddwch chi yma gyda ni yn yr Wyddgrug, beth am wneud diwrnod ohoni? Gallwch archebu un o’n teithiau cerdded Wyddgrug Hanesyddol gydag arweinydd neu fwynhau rhywbeth i’w fwyta neu ei yfed, yn un o’r lleoedd gwych sydd gennym yma yn yr Wyddgrug (byddai’n syniad archebu o flaen llaw mewn rhai safleoedd). Bydd nifer o siopau’r dref yn agored hefyd yn ystod y farchnad artisaniaid, neu beth am fynd am dro hamddenol i barc hanesyddol Bryn y Beili. Mae digonedd i’w weld a’i wneud yma yn yr Wyddgrug bob amser!
Os ydych yn Artisan ac mae gennych ddiddordeb mewn dod i’r farchnad ar unrhyw rai o’r dyddiadau hyn:
23ain Mawrth / 27ain Ebrill / 25ain Mai / 29ain Mehefin / 27ain Gorffennaf / 31ain Awst / 28ain Medi / 26ain Hydref 2025,anfonwch fanylion am y nwyddau a gynhyrchwch chi ynghyd â dolen at eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol, neu os nad ydych ar-lein anfonwch ffotograff o’ch cynhyrchion mewn e-bost i info@sundaygathering.org.uk a gofynnwch am ffurflen archebu.
Cwmni Buddiant Cymunedol, Rhif Cwmni 15938387