Arweiniad i Ddigwyddiadau
a Beth Sydd Ymlaen

Mae gan yr Wyddgrug galendr gwych o wyliau ac achlysuron sy’n cynnig rhywbeth cyffrous i bawb drwy gydol y flwyddyn.

Boed hynny’n gyfranogi yn rasys crempog traddodiadol y dref, mwynhau un o’r amryw achlysuron cerddoriaeth fyw, cynhyrchiad theatr, profi’r dewis blasus o fwyd a diod yn yr ŵyl fwyd, cynorthwyo twtio canol y dref yn y Glanhau Mawr blynyddol neu ddarganfod y cwrw arbennig hwnnw yng Ngŵyl Dachwedd, wir i chi mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yma yn yr Wyddgrug.

Bydd gwyliau ac achlysuron blynyddol yr Wyddgrug yn denu niferoedd o ymwelwyr i’r dref yn rheolaidd, wrth ganolbwyntio ar ymdeimlad cryf o gymuned. Dyma ddetholiad bach o achlysuron blynyddol mwyaf yr Wyddgrug.


Er mwyn rhoi manylion eich digwyddiad, dosbarth neu grŵp sy’n cael ei gynnal yn yr Wyddgrug, byddwch cystal ag anfon eich manylion at totallymold@moldtowncouncil.org.uk

neu ffoniwch 01352 758532 (dydd Llun - Gwener 9.00-15.00)

Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug

Gŵyl flynyddol o fwyd a diod

Pryd: 13-15 Medi 2024
Amser: Nos Wener: 6pm – 10pm – noson gerddorol.
Dydd Sadwrn: Bydd yr ŵyl yn agor am 10am ac yn rhedeg tan 8pm, gyda stondinau dan do yn cau rhwng 5 a 6pm
Dydd Sul: Bydd yr ŵyl yn agor am 11am ac yn rhedeg tan 5pm
Ble: Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, CH7 1NY
Trefnydd: Pwyllgor Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug
Cysylltwch: info@moldfoodfestival.co.uk
Cyfryngau: Facebook - Instagram - X
Gwefan: moldfoodfestival.co.uk
Tocynnau: moldfoodfestival.co.uk/tickets

Gŵyl Daniel Owen

Dathliad llenyddol mab enwocaf yr Wyddgrug

Gŵyl Daniel Owen
Gŵyl Daniel Owen
Gŵyl Daniel Owen
Pryd: 19-25 Hydref 2024
Amser: ewch i'r wefan i weld digwyddiadau unigol
Ble: Ledled y dref
Trefnydd: Pwyllgor Gŵyl Daniel Owen
Cysylltwch: GwylDanielOwenFestival@gmail.com
Cyfryngau: Facebook
Gwefan: danielowenfestival.com
Tocynnau: Gwelwch y wefan

Gŵyl Tachwedd

Gŵyl Cwrw Go Iawn

Pryd: 8-10 Tachwedd 2024
Amser: Mae amseroedd y sesiynau'n amrywio
Ble: Y Pod (Neuadd Eglwys y Santes Fair gynt), Stryd y Brenin, yr Wyddgrug CH7
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk
Cyfryngau: Facebook
Gwefan: moldnovemberfest.org.uk
Tocynnau: Gwelwch y wefan

Yr Ŵyl Gerdd Dant

Gwyl Gerddoriaeth Werin Cymru

Pryd: 9 Tachwedd 2024
Amser: Gwelwch y wefan
Ble: Stryd Victoria, Yr Wyddgrug, CH7 1EW
Trefnydd: Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
Cysylltwch: cerdd.dant.cymru@gmail.com
Cyfryngau: Facebook - Instagram - X
Gwefan: cerdd-dant.org
Tocynnau: Gwelwch y wefan

Sul y Cofio

Gorymdaith a gwasanaeth coffa blynyddol

Pryd: 10 Tachwedd 2024
Amser: 09:30 - 12:00
Ble: Gorymdaith o Sgwâr Daniel Owen i Eglwys Santes Fair ac yna i'r Gofeb Ryfel
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk

Troi’r Goleuadau Nadolig ymlaen

Troi’r goleuadau ymlaen gydag adloniant cerddorol a ffair

Pryd: 26 Tachwedd 2024
Amser: 15:30 - 19:30
Ble: Sgwâr Daniel Owen / Stryd Fawr, Yr Wyddgrug CH7 1AB
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk

Marchnad Nadolig

Marchnad Nadoligaidd ac adloniant

Pryd: 8 Rhagfyr 2024
Amser: 10:00 - 16:30
Ble: Sgwâr Daniel Owen / Stryd Fawr, Yr Wyddgrug CH7 1AB
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk
Cyfryngau: Facebook

Diwrnod hwyl y Pasg

Diwrnod o hwyl y Pasg, yn llawn adloniant a gweithgareddau, gyda mynediad am ddim i blant

Pryd: Dyddiad 2025 i'w gadarnhau
Amser: 11:00
Ble: Bryn y Beili, Yr Wyddgrug CH7 1DL
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk
Tocynnau: Mynediad am ddim

Yn fyw ar y Sgwâr

Digwyddiad cerddoriaeth fyw gyda bandiau lleol

Yn fyw ar y Sgwâr
Yn fyw ar y Sgwâr
Yn fyw ar y Sgwâr
Pryd: 4 Mai 2025
Amser: 12:30
Ble: Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AB
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk
Cyfryngau: Facebook
Tocynnau: facebook

Carnifal yr Wyddgrug

Carnifal blynyddol y dref

Pryd: 6 Gorffennaf 2025
Amser: 10:30 - 18:30
Ble: Cae Kendricks a'r Rec, yr Wyddgrug CH7 1DR
Trefnydd: Cyngor Tref yr Wyddgrug
Cysylltwch: events@moldtowncouncil.org.uk
Cyfryngau: Facebook
Tocynnau: Am Ddim
Totally Mold Totally Mold Totally Mold