Cynllun Talebau’r Wyddgrug Yn Llwyr

Cynllun talebau lleol yw Talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr sy’n cynorthwyo pobl i siopa’n lleol / defnyddio gwasanaethau lleol ac edrych ar yr hyn sydd gan yr Wyddgrug i’w gynnig cyn ichi wario’ch arian yn rhywle arall. Bydd y talebau ar gael fesul symiau o £5 a gallwch eu gwario yn un neu ragor o’r 80 busnes sy’n cymryd rhan yng nghynllun yr Wyddgrug.

Nid yw ein cynllun talebau ‘Yr Wyddgrug Yn Llwyr’ ar gyfer siopau’n unig. Mae modd gwario’r talebau yn salonau harddu a thrin gwallt, tafarnau, tai bwyta, caffis, barbwyr, twtwyr cŵn ac ati sy’n cynnig profiad y ‘Yr Wyddgrug Yn Llwyr’ i’w cwsmeriaid.

Nid yw Talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr ar gael mwyach i’w prynu ond gellir eu gwario o hyd ac maent yn ddilys tan 31 Awst 2022.


Os hoffech gael y rhestr ddiweddaraf o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ewch at cy.totallymoldvouchers.org.uk

Totally Mold Totally Mold Totally Mold